Y Broses Fabwysiadu

Diweddariad Covid 19: Rydym yn dal i ofalu am gŵn ac yn eu hailgartrefu tra’n cydymffurfio gyda mesurau pellter cymdeithasol. Fodd bynnag, mae ein cenelau ar gau i ymwelwyr cyffredinol.

Rydym yn gweithio yn unol â chanllawiau Rhwydwaith Lles Anifeiliaid Cymru yn ogystal â’r canllawiau a gyhoeddwyd gan Gymdeithas Cartrefi Cŵn a Chathod.

Rydw i eisiau cartrefu milgi, sut mae cychwyn arni?

Rydyn ni mor falch eich bod chi am ymuno â’r miloedd o bobl sydd wedi cwympo mewn cariad â milgwn!

Cam 1 – Cysylltwch

Gallwch gysylltu gyda AMC trwy’r dudalen ‘Cysylltu â Ni’ (ar gyfer ymholiadau cyffredinol) neu trwy ffonio ein llinell alwadau genedlaethol ar 0300 0123 999. Os oes gennych ddiddordeb mewn ci penodol gallwch ddilyn y ddolen “GIVE XXX A HOME” ar dudalen proffil y ci, neu cliciwch yma i lenwi ffurflen ‘Cais Mabwysiadu’. Yn y naill achos neu’r llall, bydd eich cais yn mynd yn syth i’r Tîm Cartrefu a fydd yn gallu helpu.

Os ydych chi angen cymorth AMC i gartrefu ci sydd gennych chi eisioes, cliciwch yma i lenwi ffurflen ‘Ildio Ci’.

Os oes gennych ymholiad cyffredinol, ffoniwch rif cyswllt cenedlaethol AMC ar 0300 0123 999 a byddwn yn ceisio ateb eich cwestiynau. Os na allwn ateb eich galwad, gadewch eich enw a’ch rhif (ailadroddwch eich rhif yn y neges). Rydym ni’n gobeithio gallu ateb unrhyw gwestiynau sydd gennych chi ,er efallai na fyddwn ni’n gallu sgwrsio am gi penodol rydych chi’n ymholi yn ei gylch. Os oes gennych ddiddordeb mewn ail-gartrefu ci byddwn yn trefnu i aelod o’r Tîm Cartrefu eich galw yn ôl i drafod eich cais yn fwy manwl ac i drefnu ymweliad cartref.

CYN CYSYLLTU Â NI, BYDDWCH YN YMWYBODOL O’R CANLYNOL:

Gall milgi fod yn “ddrwg” weithiau (dim bai arnyn nhw!). Dyma fideo i wylio.

Teuluoedd â phlant ifanc

Gan ein bod yn deall pa mor anodd yw cadw golwg ar blant bach, ein polisi yn gyffredinol yw ei bod yn well gennym i deuluoedd sy’n mabwysiadu wirio gyda ni cyn gwirioni ar fabwysiadu un o’n cŵn. Mae milgwn yn gŵn arbennig ac yn addfwyn iawn, ond y ffaith yw eu bod yn dal yn anifeiliaid ac o bryd i’w gilydd gall eu hymddygiad fod yn annisgwyl. Os cânt eu dychryn neu eu brifo gan blentyn sy’n cwympo neu’n symud yn gyflym, mae’n bosib iddynt droi’n ofnus ac ymateb, sy’n wir am unrhyw frîd. Felly, fel rheol gyffredinol, dylai plant fod dros oedran cyn-ysgol, gan fod ganddyn nhw y ddealltwriaeth a’r gallu i ddysgu sut i ddod yn ffrindiau gorau gyda’ch ci newydd.

Perchnogion cathod a “blewogion” bach

Rhaid i deuluoedd sy’n berchen ar gathod neu anifeiliaid blewog, ac sy’n dymuno mabwysiadu milgwn, ddeall na ellir gwarantu diogelwch yr anifeiliaid yn y dyfodol, waeth pa mor ddi-ddiddordeb mae’r milgwn yn ymddangos. Ni fedrwn addo na fydd y milgi byth yn rhedeg ar ôl nac yn anafu’r gath, y gwningen a.y.y.b. Rydym yn gwneud ein gorau i ddeall lefel diddordeb pob milgi unigol. Fodd bynnag mae goresgyn miloedd o flynyddoedd o raglennu genetig – i hela anifeiliaid bach sydyn – yn anodd. Dylai’r milgi gael ei wylio drwy’r amser tra’n rhyngweithio ag anifeiliaid bach ac ni ddylid byth ei adael ar ei ben ei hun heb oruchwyliaeth.

Gair i deuluoedd heb ffensys

Wrth fabwysiadu milgwn o Achub Milgwn Cymru, mae’n bwysig bod yn ymwybodol bod cael gardd ddiogel yn hanfodol. Er nad yw milgwn yn neidwyr enfawr (yn wahanol i lurchers), gallant neidio dros rwystrau, felly mae angen man diogel iddynt fynd i’r toiled.

 

Cam 2 – Ymweliad Cartref

Mae’r ymweliad cartref gan un o’n cynrychiolwyr rhanbarthol yn anffurfiol ond yn bwysig iawn. Mae’r ymweliad cartref yn eich galluogi i ofyn cymaint o gwestiynau ag y dymunwch am filgwn / lurchers, ynglyn a’u gofal cyffredinol ac ati. Os oes gennych restr o gwestiynau wedi’u paratoi, bydd eich ymwelydd cartref yn fwy na pharod i’w hateb. Mae yna ychydig o bethau rydyn ni’n mynnu eu cael wrth chwilio am gartrefi i’n cŵn.

Mae’r rhain yn cynnwys:

  1. Gardd wedi’i ffensio’n dda – gall ein cŵn neidio!
  2. Amser y gadewir y ci ar ei ben ei hun: Rydym yn deall bod yn rhaid i bobl weithio felly os ydych chi’n gweithio’n llawn amser byddwn yn dal yn ystyried cartrefu ci gyda chi. Cyn belled â’ch bod chi’n gallu darparu cerddwr cŵn neu rywun i bicio yno yn ystod y dydd i fynd â’ch ci allan am dro. Os ydych chi’n gweithio’n llawn amser a bod gennych chi rywun mewn golwg i helpu i ysgogi eich ci tra eich bod allan, byddai’n ddefnyddiol iddyn nhw fod yn bresennol ar gyfer yr ymweliad cartref.
  3. Bydd eich holl amgylchiadau h.y. plant bach yn eich cartref, cathod ac anifeiliaid anwes eraill sy’n bresennol, eich oriau gwaith, eich gardd ac ati yn cael eu hystyried yn ystod yr ymweliad cartref fel y gallwn geisio paru ci i weddu i’ch anghenion.

Nodwch. Ni fyddwn yn cartrefu unrhyw un o’n cŵn â rhywun sydd eisiau defnyddio’r ci ar gyfer rasio na gweithio. Mae pob ci AMC yn cael ei ysbaddu cyn i chi eu mabwysiadu. Fodd bynnag, gofynnwn fod eich cŵn presennol wedi eu hysbaddu hefyd.

 

Cam 3 – Eich paru â ci

Ar ôl eich ymweliad cartref, bydd y cynrychiolydd rhanbarthol yn cysylltu â’r Tîm Achub / Cartrefu i drafod amgylchiadau eich cartref. Yna byddant yn ffonio i gael sgwrs gyda chi am y cŵn sydd yn ein gofal ac yn penderfynu ar ychydig o gŵn a allai fod yn addas i chi. Os oes gennych gi mewn golwg, rhowch wybod i’r tîm. Mae’r Tîm Achub / Cartrefu yn ymwybodol o’r holl gŵn sydd yn ein gofal a byddant yn gallu eich cynghori i wneud y dewis cywir ar gyfer eich teulu, amgylchiadau’r cartref ac anghenion y ci.

 

Cam 4 – Cyfarfod â’r cŵn

Ar ôl i chi benderfynu byddwn yn trefnu amser i chi gyfarfod a chasglu’r ci o’ch dewis. Os oes gennych gi eisoes mae’n bwysig dod â’ch ci gyda chi fel ein bod ni’n sicrhau eu bod nhw’n dod yn ffrindiau gorau. Byddwch chi’n cael cyfle i fynd am dro bach gyda’r ddau gi. Os oes gennych blant, mae’n bwysig dod â’r plant gyda chi fel eu bod yn teimlo’n gyfforddus gyda’r ci cyn i chi fynd ag ef / hi adref.

 

Cam 5 – Mabwysiadu

Y rhan orau! Os ydych chi, eich teulu a’ch ci eich hun (os oes gennych chi un) yn teimlo mai’r ci rydych chi wedi’i gyfarfod yw’r un iawn i chi, byddwch chi’n gallu mynd â’r ci adref gyda chi. Gofynnir i chi lenwi rhywfaint o waith papur i ddweud eich bod wedi mabwysiadu’r ci. Mae AMC yn gofyn am ffi fabwysiadu tuag at gostau ysbaddu, microchip, brechu, coler, tennyn, côt, muzzle a chost ail-gartrefu. Fodd bynnag, nid yw hwn yn gwbwl angenrheidiol – mae cartref cariadus yn bwysicach i ni – felly os yw eich amgylchiadau ariannol yn gyfyngedig, gadewch i ni wybod yn ystod eich ymweliad cartref.

 

Cam 6 – Y gwaith dilynol

Pan ddychwelwch adref gyda’ch ci, os oes gennych unrhyw gwestiynau mae croeso i chi ffonio’ch ymwelydd cartref neu ein rhif cenedlaethol (0300 0123 999). Ar ôl ychydig ddyddiau, bydd eich ymwelydd cartref yn rhoi galwad i chi i sicrhau bod popeth yn iawn, ac ar ôl pythefnos bydd eich ymwelydd cartref yn ymweld â chi i wirio eto fod popeth yn iawn. Yna byddwn yn gadael llonydd i chi ond ar bob cyfrif ffoniwch os ydych chi eisiau trafod unrhywbeth am eich ci newydd.

 

Pecyn Cymorth Croeso a Mabwysiadu

Mae gennym lyfryn llawn gwybodaeth i’ch helpu chi i ddarparu cartref cariadus.

 

Cam 7 – Wedi hynny…

Gobeithio y byddwn ni i gyd yn cwrdd eto mewn digwyddiad codi arian neu gasgliad stryd / siop lle gallwch chi gyfarfod perchnogion milgwn a lurchers balch eraill.